Arolwg Masnach Cymru


Datganiad Hygyrchedd ar gyfer yr Arolwg Masnach Cymru



Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Arolwg Masnach Cymru ar-lein.

IFF Research Ltd sy'n cynnal y wefan arolwg hon. Rydym eisiau galluogi'r nifer fwyaf o bobl ag sy'n bosibl i gwblhau'r arolwg. Felly, rydym wedi cymryd camau i sicrhau bod y wefan mor hygyrch ag sy'n bosib. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu: Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml i'w ddeall ag sy'n bosib ac wedi defnyddio cynllun - yn cynnwys ffontiau, maint y testun, a lliwiau, sy'n cyfateb i Safonau AA.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei ddefnyddio os oes gennych anabledd.

Os ydych chi’n ei chael yn anodd cymryd rhan yn yr arolwg hwn ar-lein oherwydd ei lefel o hygyrchedd, gallwch ei gwblhau dros y ffôn gyda chymorth tîm Cymorth Arolwg IFF Research:
Hygyrchedd y wefan hon

Statws cydymffurfiad
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch; felly mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd y ffactorau nad ydynt yn cydymffurfio sydd wedi eu rhestru isod.

Offer a thrafodion rhyngweithiol
Adeiladwyd a chynhaliwyd y ffurflen hon drwy feddalwedd trydydd parti a'i 'theneuo' i edrych fel ein gwefan gymaint ag y bo modd.

Rydym wedi asesu'r gost o ddatrys unrhyw broblemau pellach gyda llywio a chyrchu gwybodaeth, a gydag offer a thrafodion rhyngweithiol. Credwn y byddai gwneud hynny yn awr yn faich anghymesur mewn perthynas â'r rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn gwneud asesiad arall pan fydd contract y cyflenwr ar fin cael ei adnewyddu, sy'n debygol o ddigwydd yng Ngwanwyn 2021.


Cynnwys nad yw'n hygyrch

Mae'r cynnwys sydd wedi ei restru isod yn anhygyrch am y rheswm a ganlyn:
Gwybodaeth gysylltu ac adborth

Os byddwch angen yr wybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print mawr, print hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â thîm cymorth arolwg IFF Research: Byddwn yn ymateb o fewn 24 awr.


Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydyn ni'n ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon drwy'r amser. Os cewch chi unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os credwch ein bod ni heb ateb gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â thîm cymorth arolwg IFF Research:


Y Drefn Orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cefnogi a Chynghori ar Gydraddoldeb (EASS).


Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae IFF Research Ltd yn ymroddedig i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.


Paratoad y datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn yn wreiddiol ar 29 Hydref 2019. Cafodd ei adolygu a'i ddiweddaru ddiwethaf ar 15 Medi 2023. Cafodd y wefan ei phrofi ddiwethaf ar 04 Medi 2023.

Aseswyd y wefan hon - yn ei chyfanrwydd - yn erbyn safonau AA, a'i phrofi gan ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin, ym mis Medi 2023.